Digwyddiadau

ABC Seminar of Solutions

ABC logo tileABC Seminar of Solutions

On 18 May 2012, ABC is holding a seminar as part of a two-day conference on Regeneration at Cardiff University. Jane Davidson, previously WG’s Minister for Environment and Sustainability and now Director of INSPIRE (Trinity St David’s Institute for Sustainable Practice, Innovation and Resource Effectiveness), will open the conference on 17 May. This is a partnership between Warm Wales, the Low Carbon Research Institute, the European Housing Ecology Network and ABC.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy – Awdurdod PCBB ac ABC

Cronfa Datblygu Cynaliadwy – Awdurdod PCBB ac ABC

Ym Mis Tachwedd 2011 dyfarnwyd cymhorthdal o £20,000 i ABC tuag at ddatblygu eu rhaglen addysg gymunedol a chymryd rhan ar gyfer eu prosiect peilot, yn dibynnu ar lwyddiant eu cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn anffodus, mi glywsom yn gynnar ym mis Rhagfyr nad oeddem yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf, felly nid ydym yn gallu cymryd y cymhorthdal gan yr Awdurdod.

Britain’s Empty Homes yn ffilmio ABC

ABC logo tileBritain’s Empty Homes yn ffilmio ABC

Ar 18 Tachwedd 2011, cafodd Joanie Speers a Roger Mears o ABC eu ffilmio gan Ricochet ger Talgarth yn sôn am nodau ac amcanion yr elusen. Roedd y lleoliad yn brydferth dros ben, ac yn gefnlen berffaith ar gyfer y digwyddiad. Fe fydd y bennod yn cael ei darlledu ar 9 Ionawr 2012 am 11:45 y bore, neu gallwch ei wylio ar ôl i’r rhaglen gael ei darlledu ar iplayer BBC.

AHF ac ABC

AHF LogoAHF ac ABC

Ym mis Medi 2011, cafodd ABC grant gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol fel rhan o’i menter ‘mannau oer’, sy’n annog datblygu ymddiriedolaethau cadwraeth adeiladau mewn mannau lle bo angen amdanynt. Mae ABC yn defnyddio’r grant i ddarganfod y mannau hynny ac i geisio am gyllid gan ragor o gronfeydd.

Mae ABC wedi apwyntio ymddiriedolwr newydd

ABC logo tile

Mae ABC wedi apwyntio ymddiriedolwr newydd

Cafodd Anjuli Quartermaine ei hapwyntio yn 5ed Ymddiriedolwr i ni er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth bwrdd ABC. Mae Anjuli yn dod o Lanymddyfri ac yn byw yn Llanarthne. Mae hi hefyd yn swyddog polisi cynllunio cynorthwyol ac yn teimlo’n angerddol ynghylch achub adeiladau hanesyddol brodorol a darparu tai fforddiadwy (edrychwch o dan Trustees am ragor o fanylion).

Seminar AHF yn Abertawe

AHF LogoSeminar AHF yn Abertawe

Fe wnaeth Bro Myrddin ac ABC gyflwyniad ar y cyd dan y thema  ‘archwilio partneriaethau newydd’ yn seminar y Gronfa Treftadaeth Pensaernïol, Bywiogi treftadaeth adeiladol; yn ymgodymu ag adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl yng Nghymru. Digwyddodd hyn yn Theatr y Grand yn Abertawe ar 3ydd Mawrth 2011.

Seminar CYC Cymru

APT logoSeminar CYC Cymru

Gwnaeth ABC a Bro Myrddin gyd-gyflwyniad ar 13 Hydref 2010 yn seminar Cymdeithas Ymddiriedolaethau Cadwraeth Cymru yn Llandrindod, gan ganolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau rhwng ymddiriedolaethau cadwraeth adeiladau a chymdeithasau tai.

Canlyniadau’r arolwg anghenion tai

RHE logoCanlyniadau’r arolwg anghenion tai

Lansiodd Galluogwr Tai Gwledig Sir Gaerfyrddin arolwg o anghenion tai ar 14 Ionawr 2010 ym Methlehem, Gwynfe, Myddfai, Llangadog a Llanddeusant. Rhai o ganlyniadau’r arolwg, a gyhoeddwyd ddiwedd Mai 2010: anfonwyd 889 o arolygon; cafodd 229 eu dychwelyd (26%); roedd 54% yn cefnogi ailwampio adeiladau gwag er mwyn darparu tai fforddiadwy (a 34% ‘efallai’ yn cefnogi’r syniad); roedd 13 teulu angen tai fforddiadwy ar hyn o bryd. Cysylltwch ag ABC i gael rhagor o fanylion am yr arolwg.

Cyfarfod cyhoeddus, Llanddeusant

ABC logo tileCyfarfod cyhoeddus, Llanddeusant

Ar 27 Tachwedd cynhaliodd ABC gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Gymunedol Llanddeusant. Siaradodd Joanie Speers am ABC; Phil Roberts, Prif Weithredwr Cymru Gynnes, ar ‘yr hyn sy’n fforddiadwy’; a Siaradodd Lynne Beer, Galluogwr Tai Gwledig Sir Gaerfyrddin, am arolwg o anghenion tai. Bydd arolwg ar gyfer Bethlehem, Gwynfe, Myddfai, Llangadog a Llanddeusant yn cael ei ddosbarthu yn Ionawr 2010.

Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ABC

WAG logoLlywodraeth Cynulliad Cymru ac ABC

Fe gydnabyddir yn awr bod egwyddorion sylfaenol ABC yn cydymffurfio â pholisi Llywodraeth Cymru i wella a chynyddu tai fforddiadwy, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Mae ABC yn gwireddu’r argymelliadau penodol Adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree ym mis Mehefin 2008 ar dai yng nghefn gwlad Cymru: defnyddio adeiladau diangen, cael cymunedau lleol i gymryd rhan a mabwysiadu dulliau beiddgar ac arloesol o weithio.