Nodau ac Amcanion

WindowBwriad ABC yw cefnogi’r gymdeithas leol ac ennyn gwerthfawrogiad o’r cyfraniad y mae pensaernïaeth frodorol wedi’i wneud dros amser wrth iddi ddiogelu medr a hanes cenedlaethau o ffermwyr mynydd a’r modd yr oeddent yn byw eu bywydau ac yn creu cymuned o’u hamgylch. Bydd ABC yn canolbwyntio ar adeiladau nad ydynt gan amlaf wedi eu rhestru, ond sydd yn cynrychioli’r ffurf adeiledig o fewn tirlun a ddatblygwyd gan bobl a gweithgareddau a ddiffiniodd yr ardal ac a roddodd ei chymeriad iddi./p>

Nodau ABC ydi diogelu, er lles pobl Sir Gaerfyrddin a Phowys, Cymru a’r Genedl, yr etifeddiaeth hanesyddol ac adeiladol sy’n bodoli yn Sir Gaerfyrddin a Phowys, a’r ardaloedd o’u cwmpas, mewn adeiladau ( yn cynnwys unrhyw adeiladwaith neu ran o adeilad a ddiffiniwyd felly ) o harddwch arbennig, neu o ddiddordeb hanesyddol, adeiladol, neu bensaernïol.

Amcanion ABC yw

  1. 1. Cynnal a chadw hen adeiladau hanesyddol, gan amlaf yn rhai brodorol
  2. 2. Gweithio gyda chymdeithasau lleol i weld pa adeiladau sydd mewn perygl
  3. 3. Gweithio ar y cyd â’r gymdeithas leol i ganfod y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cadwraeth, dehongli ac adfywiad, ac unrhyw weithgareddau eraill sy’n rhan o amcanion yr elusen